Arth ar Fawth?
NASA/JPL-Caltech/UArizona
Arth ar Fawth?
ESP_076769_1380
Saesneg  Cernyweg  

twitter 
WALLPAPER
800
1024
1152
1280
1440
1600
1920
2048
2560
2736
2880
4500
4K
8K
10K


Mae’r nodwedd hon yn edrych tipyn bach fel wyneb arth. Beth ydy hi mewn gwirionedd?

Mae bryn gyda strwythur dymchwel ar siâp-V (y trwyn), dau geudwll (y llygaid), a phatrwm hollti crwn (y pen). Mae’n bosibl bod y patrwm hollti crwn yn ganlyniad dyddodion yn setlo dros geudwll ardrawiad claddedig. Efallai bod y trwyn yn dwll awyr folcanig neu laid a gallai’r dyddodyn fod yn llifoedd lafa neu laid?

Cyfieithiad: Rachel Holden
 
Dyddiad caffael
12 Rhagfyr 2022

Amser lleol ar Fawrth
2:29 PM

Lledred
-42°

Hydred
207°

Pellter i’r safle targed
260 km

Cydraniad y ddelwedd
26 cm/picsel felly mae gwrthrychau tua 78 cm o led i’w gweld yn y llun

Graddfa delwedd y tafluniad
25 cm/picsel

Tafluniad cartograffigPetryal (ac mae'r Gogledd tuag i fyny)

Ongl allyrru
16°

Ongl y wedd
63°

Ongl yr haul
51°, ac mae’r Haul wedi ei leoli 39° gradd uwchlaw’r gorwel

Hydred yr Haul
353°, Gaeaf y gogledd

JPEG
Du a gwyn:
Tafluniad map
Tafluniad heb fod ar fap

Lliw IRB:
Tafluniad map
Tafluniad heb fod ar fap

IRB cyfunol:
Tafluniad map

RGB cyfunol:
Tafluniad map

Lliw RGB:
Tafluniad heb fod ar fap

JP2 (LAWRLWYTHO)
Du a gwyn:
Tafluniad map (564 MB)

Lliw IRB:
Tafluniad map (342 MB)

JP2 (YCHWANEGOL)
Du a gwyn:
Tafluniad map  (262 MB)
Tafluniad heb fod ar fap  (452 MB)

Lliw IRB:
Tafluniad map  (91 MB)
Tafluniad heb fod ar fap  (264 MB)

IRB cyfunol:
Tafluniad map  (160 MB)

RGB cyfunol:
Tafluniad map  (152 MB)

Lliw RGB:
Tafluniad heb fod ar fap  (254 MB)
3D
Tafluniad map (PNG)
JP2 (lawrlwytho)

GYWBODAETH YCHWANEGOL AM Y DDELWEDD
Label du a gwyn
Label du a lliw
Label IRB cyfunol
Label RGB cyfunol
EDR Delweddau

DELWEDDAU
Mae’r holl ddolenni delweddau yn rhai llusgo a gollwng ar gyfer HiView, neu cliciwch i’w lawrlwytho.

POLISI DEFNYDD
Mae’r holl ddelweddau a gynhyrchwyd gan HiRISE ac sydd ar gael ar y wefan hon o fewn y parth cyhoeddus: nid oes unrhyw gyfyngiadau ar eu defnydd gan unrhyw aelod o’r cyhoedd, gan gynnwys sefydliadau newyddion neu wyddoniaeth. Gofynnwn am linell o gydnabyddiaeth lle bo’n bosibl:
NASA/JPL-Caltech/UArizona

ÔL-NODYN
Labordy Jet-yriant NASA, adran o Athrofa Technoleg California yn Pasadena, Calif., sy’n rheoli Mars Reconnaissance Orbiter ar ran Cyfarwyddiaeth Cenhadaeth Wyddoniaeth NASA, Washington. Cafodd camera HiRISE ei adeiladu gan Gorfforaeth Awyrofod a Thechnoleg Ball a chaiff ei weithredu gan Brifysgol Arizona.