HiPOD 27 Mai 2019
Llwch a Llwydrew

Llwch a Llwydrew
Mae haenau ysgafn o lwch o liw oren golau sydd wedi’i chwythu ar draws y tywod basalt tywyll i’w gweld ar dwyni tywod rhanbarthau pegwn y gogledd Mawrth. O amgylch ymylon y tywyni mae clytiau o rew sych tymhorol.

Bydd y clytiau hyn yn diflannu yn fuan wrth iddynt sychdarthu yn haul yr haf. Mae rhai blociau o rew yn weladwy ar waelod cilfach a grewyd wrth i dywod lithro i lawr wyneb y twyn.

Cyfieithiad: Sioned Williams



rhif: ESP_053129_2650
dyddiad caffael : 26 Tachwedd 2017
uchder: 320 km

https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_053129_2650
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh

Y du a gwyn yn llai na 5 cilomedr ar draws; llun lliw wedi’i wella yn llai na 1 cilomedr.