Bu rhigolau ar dwyni tywod Mawrth,
fel y rhain yng Ngheudwll Matara, yn weithgar iawn, gyda llawer o lifoedd yn y ddeng mlynedd diwethaf. Mae'r llifoedd yn digwydd yn nodweddiadol pan fydd rhew tymhorol yn bresennol.
Yma, gwelwn rew mewn dwy rigol ac o'u hamgylch, a fu'n weithgar iawn o'r blaen. (
Edrychwch ar yr arsylliad hwn i weld sut oedd y rhigolau hyn yn edrych yn 2010.) Nid oes unrhyw lifoedd newydd eleni hyd yn hyn, ond bydd HiRISE yn dal i chwilio!
Cyfieithiad: Rachel Holden
rhif:
ESP_054026_1300dyddiad caffael : 04 Chwefror 2018
uchder: 252 km
https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_054026_1300
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh