Gwelwn yma geudwll ardrawiad newydd sydd wedi
achosi stribyn tywyll ar y llethr. Pan drawodd y meteor bychan a ffrwydro gan greu’r ceudwll, gwnaeth y llethr yn llai sefydlog hefyd a chychwyn y tirlithriad hwn.
Dim ond 5 metr ar draws yw maint y ceudwll, ond mae’r stribyn yn gilomedr o hyd! Mae stribyn llethr yn cael ei greu pan fydd tirlithriadau o lwch sych yn gadael olion tywyll ar fryniau Mawrth. Mae craith gwan hen dirlithriad i’w weld hefyd wrth ochr y stribyn tywyll newydd.
Cyfieithiad: Sioned Williams
rhif:
ESP_054066_1920dyddiad caffael : 07 Chwefror 2018
uchder: 277 km
https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_054066_1920
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh