Gwelwyd y rhan hon o Hafn Melas yn nifer o ddelweddau blaenorol HiRISE oherwydd amrywiaeth y tir a’r defnyddiau sydd i’w gweld yma. Yn yr arsylliad hwn, ceir ardal a welwyd mewn delweddau blaenorol ac mae’r llun yn datgelu cybolfa ddi-drefn o haenau llachar o waddodion, o bosibl yn ganlyniad i dirlithriadau mawr.
Wrth fynd yn agos a gwella’r lliwiau, gallwn weld cymysgedd o ddefnyddiau. Mae tywod tywyll yn gorchuddio rhannau isaf yr olygfa.
Cyfieithiad: Helen Mainwaring
rhif:
ESP_058527_1695dyddiad caffael : 20 Ionawr 2019
uchder: 261 km
https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_058527_1695
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh