Mae dyddodion haenog pegwn y de yn haenau rhewllyd sydd wedi eu dyddodi dros filiynau o flynyddoedd, gan ddiogelu hanes hinsawdd Mawrth. Yn y ddelwedd hon mae’r haenau wedi eu goleuo’n dda er mwyn pwysleisio’r dopograffeg.
Tynnwyd delwedd flaenorol o’r lleoliad hwn gyda’r llethr haenog yn wynebu i ffwrdd o’r haul, gan osod yr haenau mewn cysgod.
Cyfieithiad: Rachel Holden
rhif:
ESP_058538_0960dyddiad caffael : 21 Ionawr 2019
uchder: 249 km
https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_058538_0960
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh