Tynnwyd y ddelwedd hon yn Ius Chasma, rhan sylweddol o gydran orllewinol cafn enfawr Valles Marineris.
Gwelwn ran o lethr serth gyda cheunentydd yn estyn am i lawr. Mae lloriau llawer o’r ceunentydd yn dywyll, ac mewn rhai mannau mae’r deunydd tywyll yn ymestyn i ddyddodion bwâog y ceunentydd. Mae’r nodweddion tywyll hyn yn llifoedd llethr cylchol (“recurring slope lineae” neu “RSL”), nodweddion tymhorol sy’n tyfu'n gynyddrannol. Nid yw’r berthynas rhwng RSL a cheunentydd yn eglur: ai gweithgaredd yr RSL sy’n cerfio’r ceunentydd, neu a ydynt yn syml yn dilyn topograffeg y ceunant a grewyd gan brosesau eraill?
Dengys agoslun arall o’r arsylwad hwn ran o lawr Ius Chasma, gyda chraigwely haenog wedi ei orchuddio gan dwyni.
Cyfieithiad: Rachel Holden
rhif:
ESP_058580_1720dyddiad caffael : 25 Ionawr 2019
uchder: 264 km
https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_058580_1720
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh