Mae Mawrth Vallis yn llecyn ar Fawrth sydd wedi cyfareddu gwyddonwyr oherwydd y cleiau a’r mwynau hydradol eraill a ganfyddir o orbit.
Yn y ddelwedd hon,
mae’n debyg mai tywodydd a cherrig basaltaidd yw’r lliwiau du cyfoethedig, tra bod y lliwiau gwyrdd, melyn a glas yn cyfateb i'r gwahanol fwynau hydradol.
Tynnwyd y ddelwedd benodol hon o leoliad ym Mawrth Vallis sydd â mwyn o’r enw jarosit. Ar y Ddaear mae jarosit yn ffurfio dan amodau gwlyb, asidig, sy’n ocsideiddio. Mae jarosit i'w weld hefyd mewn fan arall ar Fawrth lle glaniodd y crwydryn Opportunity a fforio.
Cyfieithiad: Rachel Holden
rhif:
ESP_058749_2060dyddiad caffael : 07 Chwefror 2019
uchder: 289 km
https://uahirise.org/hipod/cy/ESP_058749_2060
NASA/JPL-Caltech/University of Arizona
#Mars #NASA #Cymraeg #Cymru #Welsh